Neidio i'r cynnwys

Donnie Darko

Oddi ar Wicipedia
Donnie Darko

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Richard Kelly
Cynhyrchydd Adam Fields
Nancy Juvonen
Sean McKittrick
Ysgrifennwr Richard Kelly
Serennu Jake Gyllenhaal
Jena Malone
James Duval
Mary McDonnell
Holmes Osborne
Maggie Gyllenhaal
Katharine Ross
Drew Barrymore
Beth Grant
Patrick Swayze
Noah Wyle
Cerddoriaeth Michael Andrews
Sinematograffeg Steven B. Poster
Golygydd Sam Bauer
Eric Strand
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Newmarket Films
Amser rhedeg 113 munud (golygiad gwreiddiol)
133 munud (golygiad y cyfarwyddwr)
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Ffilm gyffro seicolegol o 2001 a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Richard Kelly yw Donnie Darko. Mae'n serennu Jake Gyllenhaal, Jena Malone, a Mary McDonnell. Mae'r ffilm yma'n cynnwys pedoffilia.

Darlunia'r ffilm antur sy'n herio realiti y prif gymeriad wrth iddo chwilio am ystyr ac arwyddocad ei freuddwydion cythryblus ynglŷn â diwedd y byd. Yn wreiddiol, beirniadwyd y ffilm am iddi gael ei rhyddhau'n syth i fideo cyn i Newmarket Films gymryd y ffilm i'w meddiant. Gwnaed y ffilm ar gyllid o $4.5 miliwn UDA a chafodd ei ffilmio dros gyfnod o 28 niwrnod. Gwnaeth y ffilm $4.1 miliwn yn fyd-eang ac felly gwnaeth y ffilm golled. Ers hynny, mae'r ffilm wedi derbyn beirniadaethau canmoladwy a datblygodd ddilyniant cwlt sylweddol. Arweiniodd hyn i fersiwn arbennig dau ddisg i gael ei ryddhau yn 2004.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm wyddonias. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.